Our vision
To be the best local provider of vocational and training routes into quality work placements and employment for people with learning disabilities, founded on our history of innovation, inclusion and value for money.
Vision 21 (Cyfle Cymru) offers people with learning needs and disabilities sufficient time and support to discover new skills, attitudes and confidence, helping them to lead fulfilled adult lives.
Cymraeg
Y mudiad
Sefydlwyd Vision 21 (Cyfle Cymru) dros 10 mlynedd yn ôl gan Barry Shiers MBE. Llwyddodd y cwmni a elwid yn Gabalfa Community Workshop yn wreiddiol i ennill enw da am hyfforddiant galwedigaethol cadarn mewn awyrgylch cefnogol.

Mae'r weledigaeth a'r ysbrydoliaeth wreiddiol yn parhau o fewn y mudiad hynod broffesiynol Vision 21 (Cyfle Cymru) fel y mae heddiw ac yn parhau i gynning y cyfle i bobol ag anabledd ymgymryd ag hyfforddiant galwedigaethol yn arwain at waith.
Cydweithio
Mae Cyfle Cymru (Vision 21) yn cydweitho’n barhaus ag amrywiaeth o Awdurdodau Lleol trwy Gymru gyfan i ddatblygu Mentrau newydd er darparu mwy o ddewis ar gyfer dysgu gydol oes a gwaith i bobol ag anableddau dysgu.

Rydym yn gweithio gyda Fframwaith Pobl Ifanc er cynnig opsiynau cynyddol i fyfyrwyr i fynd o’r ysgol i fyd gwaith.
Rydyrn yn gweithio mewn cysylltiad â’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (NHS) ac Ysbyty Prifysgol Cymru i ddarparu llefydd hyfforddi i nyrsus dan hyfforddiant a Chynghor Geneteg er mwyn codi ymwybyddiaeth o anghenion pobol ag anableddau dysgu.
Y prosiectau
Gyda phrosiectau wedi eu lleoli yng Nghaerdydd ac ym Mro Morgannwg mae Vision 21 ar hyn o bryd yn cynnig hyfforddiant yn:
- Sgiliau Gwaith Coed
- Crochenwaith a Serameg
- Sgiliau Arlwyo
- Gwybodaeth Technoleg
- Arferion mânwerthu
- Celf a Chrefft
- Cynnal a chadw gweithd
Hyfforddiant
Prif Nodweddion y Rhaglen Hyfforddiant:
- Mae hyfforddi wedi’i deilwrio at anghenion yr unigolyn a welir yn y Cynllun Hyfforddi Unigolyn
- Hyfforddiant mewn grwpiau bychan weithiau un wrth un, wyneb yn wyneb.
- Achrediadau cymwysterau galwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol – NPTC ac OCN.
- Sefyllfaoedd Gwaith realistig ac ymarferol
- Staff profiadol â chymwysterau addas, sy’n ymroi’n llwyr I weithio gyda’r myfyrwyr.
- Enw da sydd wedi‘I sefydlu ar ansawdd dda yr hyfforddiant - Buddsoddwr mewn Pobl a wedi cael gwobrau cenedlaethol am ‘Arferion Rhagorol’.

Tu fewn i’r rhaglen hyfforddiant mae myfyrwyr yn cael y cyfle i fynychu rhwng 1 a 5 diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn datblygu sgiliau cymdeithasol rhwg eu cymheiriaid, eu cydweithwyr a’r cyhoedd. Wrth ddysgu sgiliau mae hunan hyder yn datblygu a hyn yn nerthu’r unigolyn i geisio cael gwaith cyflogedig.
Yn ychwanegol at hyn, mae pob myfyriwr yn derbyn:
- cyfarwyddyd addas ar iechyd, diogelwch, glanweithdra a lles
- hyfforddiant addas mewn cymorth cyntaf. Sut i warchod rhag peryglon tân, sut i godi a gafael mewn darnau trwm mewn ffordd ddiogel
- cyngor ar sgiliau byw perthnasol a chyngor ar fyw’n annibynnol.
Ceisiadau
Dylai ymgeiswyr fod yn 16 mlwydd oed neu fwy a dangos diddordeb mewn hyfforddiant galwedigeathol yn arwain at waith. Gellir trefnu diwrnodau 'Rhagflas' a gall myfyrwyr 14-16 mlwydd oed ddod i Cyfle Cymru, Vision 21 trwy gynllun cyfnewid ysgolion neu i
gael profiad gwaith.